Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 22 Tachwedd 2018
Amser:
09.01 -
11.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5085
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Jayne Bryant AC Andrew RT Davies AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Prys Davies, Llywodraeth Cymru Simon Jones, Llywodraeth Cymru Dr Rebecca Heaton, Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU Dr David Joffe, Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Andrew Minnis (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Helen Mary Jones AC fel aelod parhaol o'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Helen Mary Jones AC.
2.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3, 4 ac 8 o gyfarfod heddiw ac ar gyfer y cyfarfod ar 28 Tachwedd 2018.
3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
4.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.
5.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch y cais ariannu y mae Caerffili wedi'i gyflwyno i Lywodraeth y DU a fydd yn ei galluogi i fod y gymuned gyntaf ym Mhrydain lle bydd yr holl drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei phweru gan drydan.
5.3 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ynghylch y broses drosglwyddo a ddigwyddodd rhwng Trenau Arriva Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, yn ogystal ag unrhyw adroddiadau diwydrwydd dyladwy.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Dr Rebecca Heaton a Dr David Joffe i lywio ei ymchwiliad.
7. Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 7.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 5 a 6.